Straeon Llwyddiant

Eisiau gwybod beth i ddisgwyl o Fentora efo Siân? Dyma sut mae eraill wedi elwa.

"Dwi wedi elwa yn syth o fentora - mae'n braf cael rhywun arall i fy helpu ac i roi awgrymiadau ond hefyd i fy nghadw yn ‘accountable’.”

  • "Trwy fentora dwi'n gallu gwneud camau bach i newid petha a mae'r camau bach ma i gyd yn adio i fyny i wneud newid mawr. Go for it!"

  • "Dw i wedi elwa gymaint yn y cyfnod o weithio efo chdi, oherwydd dw i wedi dysgu gymaint nad oeddwn yn gwybod o’r blaen, ac wedi gallu dechrau trawsnewid fy mywyd mewn ffyrdd realistig sydd wirioneddol yn gweithio."

  • "I unrhyw un sy’n ystyried mentora efo Siân, oll fyswn i’n dweud yw ‘cer amdani!’ Mae’n gam enfawr ac mor ddychrynllyd i gychwyn ar siwrne fel hyn, ond fyswn i heb allu cael mentor gwell."

  • "Mae Siân yn fy nghadw’n atebol, yn rhoi’r motivation i mi ac yn dysgu gymaint y gallaf ddefnyddio trwy gydol fy mywyd."

  • "Diolch i gymorth a chyngor Siân, dw i’n coelio yn fi fy hun a fy ngallu llawer mwy, a dw i mor motivated i barhau ar y siwrne a gweld beth arall sydd i ddod."

  • "Fe wnes i elwa’n arw o’r cyfnod y bues i’n cael fy mentora gan Siân, mewn sawl ffordd a dweud y gwir!"

  • "Diolch Siân, dwi ar fy ngorau mewn cymaint mwy o ffyrdd ers gweithio efo chdi! "

  • "Dim beirniadaeth, dim ond anogaeth."

  • "Mae hi wirioneddol eisiau’r gorau i mi, ac mae hi wedi codi fy hyder a lefelau ffitrwydd, ac dw i’n gweld canlyniadau dydw i erioed wedi o’r blaen. Heb amheuaeth, wnei di ddim difaru cymryd y cam yma!"