Magu hyder ac adnabod fy sgiliau - Anhysbys

Roedd y mentora gan Siân yn help mawr i mi. Fe wnaeth fy sefyllfa newid yn sydyn ac annisgwyl, ac roedd angen i mi fynd i chwilio am gyfleoedd newydd er mwyn ailgydio yn fy llwybr gyrfa.

Cyn gofyn i Siân am help, doedd gen i ddim hyder yn mynd i fewn i gyfweliad. Doeddwn i ddim yn gallu adnabod fy sgiliau a be oeddwn yn dda am ei wneud a doedd gen i ddim syniad be oeddwn am ei ddweud yn y cyfweliad. 

Fe helpodd Siân gyda llawer iawn o bethau fel magu hyder, adnabod fy sgiliau a be fysa yn gwneud fi yn dda yn y swydd roeddwn yn cael cyfweliad amdani. O’r sesiwn cyntaf i’r cyfweliad roeddwn i wedi mynd o fod heb unrhyw hyder o gwbwl i’r mwyaf hyderus dwi wedi bod mewn blynyddoedd, wedi mynd o fod yn edrych yn ôl ar y methiant oedd wedi digwydd yn y gorffennol i fod yn edrych ar y cyfle gwych oedd o fy mlaen. Dwi wedi dysgu llawer iawn am pa fath o sgiliau oedd yn fy ngwneud i yn ymgeisydd da, ac fe es i mewn i’r cyfweliad yn credu y gallwn i lwyddo. 

Roedd y mentora gan Siân a’r help paratoi yn rhan fawr o pam roeddwn i yn llwyddiannus, ac rydw i wrth fy modd yn fy rôl newydd rŵan. Diolch o galon i ti Siân.