Derbyn mod i methu newid y byd - Sophie

Cyn i mi fynd at Siân, ro'n i mewn sefyllfa lle'r oedd gwaith wedi cymryd drosodd, ro'n i'n gorweithio, eisiau cyflawni popeth ar y rhestr hir ond yn teimlo mod i'n troi mewn cylchoedd yn cyflawni dim byd ac yn adio mwy i'r rhestr nag oni'n groesi ffwrdd.

Yn fam i toddler bywiog, do'n i ddim yn blaenoriaethu fy hun na fy nheulu ddigon ac o'n i'n teimlo'n euog. Ro'n i'n gymharol newydd i'm swydd, yn arwain tîm am y tro cyntaf ac yn gweithio mewn maes o'n i'n joio ac yn angerddol amdano, ond yn brysur sylwi bod rhaid i fi ffeindio ffordd o wneud iddo weithio'n well i mi gan nad oedd na unrhyw arafu ar y gwaith. 

Ro'n i eisoes wedi dod ar draws Siân drwy fy ngwaith, a phan welais i ei bod yn cynnig mentora, o'n i'n gwbod y byddai'r persbectif annibynnol ac allanol 'na o fudd mawr i helpu fi weithio allan sut i wneud y gorau o'm amser a'r holl sgiliau oedd ar gael i fi o fewn ein tîm. Mi weithion ni ar ddipyn o strategaethau ymarferol i helpu fi gael trefn, gosod ffiniau cliriach, blaenoriaethu fwy a cheisio rhannu gwaith yn well. Mae'n cymryd amser i gamu nôl a chynllunio ac mae'n hawdd peidio gwneud hyn pan da ni ar yr 'hamtser wheel' - ac er ei bod yn anodd newid arferiad sydd wedi bod efo ni ers blynyddoedd ro'n i'n medru gweld y gwahaniaeth oedd o'n ei wneud i fi ac i rediad ein tîm pan o'n i'n cynllunio'n well, trio cyfathrebu yn well a blaenoriaethu/delegatio yn fwy effeithiol (er fod gen i dal lot o ffordd i fynd!).  

Roedd cael Siân fatha cael pâr o lygaid ychwanegol a ffresh. Un o'r pethau mwyaf un ges i o'r profiad oedd yr help i dderbyn mod i ddim yn medru newid y byd ar ben fy hun, mod i byth am lwyddo i wneud bob dim o'n i isio'i wneud a bod hynny'n oce a ddim yn golygu mod i'n methu! Rydw i bellach i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth a mi oedd yn anodd sticio i'r strategaethau o'n i wedi'u dysgu wrth geisio dod i ben a phethau cyn gorffen - natur fi ydi hynny, ond yn lle gwylltio efo fi'n hun a gweld bai mi roddais lawer mwy o 'slac' i fi'n hun am stryglo. Mi wnes i hefyd drafod efo fy rheolwyr ar adegau pan o'n teimlo bod gen i fwy nag oedd yn realistig i mi gyflawni ar fy mhlât gan ofyn iddynt am arweiniad a chymorth i ddewis be oedd y flaenoriaeth. Wrth i'r diwrnod olaf agosau, mi oni'n gorfod derbyn mod i ddim am gyrraedd rhai pethau a bod rhaid iddynt gael eu pasio mlaen i fy olynydd, a bod hynny hefyd yn oce.  

Mae datblygiad o'r math yma yn daith, a dydi cynnydd ddim yn digwydd mewn llinell syth. Dydi o ddim yn bosib chwaith i neb roi y gwaith i mewn drostoch chi, does na'm quick fix os ydach chi'n berson fel fi (self confessed control freak a people pleaser!) a mae angen dadwneud arferion sydd yn gwbl ingrained - dwi'n teimlo weithia mod i'n cymryd dau gam yn ôl bob tro dwi'n camu ymlaen! Gall Siân eich helpu i gamu nôl a gweld y sefyllfa da chi ynddo fo, gan weithio efo chi i greu cynllun bach sy'n realistig i chi gan edrych ar bob agwedd o'ch bywyd, dim just yr elfen da chi eisiau ei gryfhau. Mi wnaiff hefyd rhoi prod bach neu eich atgoffa i arafu pan fod angen!  

Er mod i ffwrdd o ngwaith ar y funud, dwi'n edrych mlaen i ddefnyddio beth ddysgais o'm amser efo Siân pan ai'n ôl i fy ngwaith i barhau efo fy nhaith o ddatblygu!