Rhoi sylfaen cadarn ac iach i fywyd.- Gwenlli
Mae pobl yn dueddol o fy ystyried i fel rhywun eithaf hyderus, dwi’n meddwl. Ond dydi hynny ddim yn wir am bob agwedd ar fy mywyd i, o bell ffordd! Rhyw ddiffyg credu ynof fi’n hun a chredu yn fy ngallu i lwyddo sydd wedi fy nal i’n ôl am flynyddoedd. Llais bach yng nghefn fy meddwl yn fy atgoffa o bob methiant ac yn dweud mai ‘jyst fel hyn wyt ti, waeth iti heb â thrio’.
Ar ôl blynyddoedd o gario pwysau er gwaetha’r holl feicio, heicio a nofio dwi’n ei wneud ar bob gafael, ges i anaf drwg ac roedd RHAID i fi arafu am sbel. Buan y sylweddolais i fod trio rheoli fy mhwysau drwy losgi calorïau jyst drwy wneud ymarfer corff fatha dynas wyllt yn hollol afrealistig!
A dyna wnaeth fy arwain at ofyn i Siân am ei gwasanaeth mentora. Dwi’n cofio meddwl, “wel dwi di trio bob dim arall – go brin y gwna i lwyddo, ond s’gen i ddim byd i’w golli, am wn i”. Doedd gen i ddim syniad ’mod i ar drothwy newid llwyr yn fy hunanhyder a meddylfryd. Mae’r siwrne yma efo Siân wedi taclo lot mwy na jyst macros bwyd.
Un o’r prif bethau wnaeth fy helpu i lwyddo oedd dull Siân o gyrraedd gwraidd y peth oedd yn fy mhoeni – y ‘pam’ yn hytrach na dim ond y ‘beth’. Achos yn fanna mae newid yn digwydd – wrth wraidd y broblem.
Ges i gefnogaeth bersonol gan Siân i wneud newidiadau bach mor syml ond mor bwerus hefyd. Roedd hi yno i fy llongyfarch, fy annog ac – yn hollbwysig – i gefnogi heb feirniadaeth pan roedd petha’n heriol.
Fe wnes i ddysgu cymaint yn fy nghyfnod o gael Mentora efo Siân, ac mae’r gwersi hynny wedi parhau i wneud lles i mi ers i’r mentora ddirwyn i ben. Er gwaethaf heriau iechyd dyrys iawn yn ddiweddar, mae’r egwyddorion y gwnes i eu mabwysiadu wrth weithio efo Siân yn dal i fod gen i, yn rhan annatod o fy mywyd i.
Yr hyn sy’n gwneud y mentora mor effeithiol a chadarn ydi agwedd realistig Siân at les. Dydi hi ddim yn gwerthu ryw syniad afrealistig o godi cyn cŵn Caer bob bore i redeg rownd y bloc ac yfed kale smoothies i frecwast, a chael 6-pack mewn 6 wythnos! Dim lol, dim ffads, dim llwgu, a dim beirniadaeth! Mae hi’n arfogi ni efo’r syniadau, y ffeithiau a’r gefnogaeth i wneud gwelliannau bach yma ac acw sy’n ffitio i mewn i fywydau prysur, ac sy’n dod at ei gilydd i roi sylfaen cadarn ac iach i fywyd.