Gwireddu breuddwyd - Helen

Gwanwyn 2024 mi wnes i gymhwyso fel hyfforddwr Pilates - rhywbeth roeddwn i wedi bod â'm bryd ar wneud ers tro ar ol bod yn mynychu dosbarthiadau fy hun am flynyddoedd, ond fod popeth arall wedi cael blaenoriaeth dros y blynyddoedd!



Ar y pryd doedd gen i ddim cynllun pendant  - roeddwn i yn awyddus i gynnal sesiynau Pilates a cychwyn yn ara bach fel roedd cyfleon yn codi. Yn fuan wedyn mi ges i gynnig cynnal sesiynau drwy Island Pilates gan fod y busnes agor stiwdio newydd ym Mhorthaethwy ac yn chwilio am fwy o hyfforddwyr - ac felly mi es i amdani yn cychwyn drwy gynnal rhyw 2 sesiwn ar nosweithiau Iau. Roedd yn bwysig imi fy mod i'n medru cynnig rhai sesiynau yn Gymraeg.

Roeddwn i hefyd ar y pryd yn gweithio yn llawn amser i Mudiad Meithrin yn Bennaeth ar yr adran hyfforddiant, ac yn mwynhau datblygu cynlluniau a gweithlu y sector blynyddoedd cynnar.

Erbyn yr haf hwnnw roedd y gwaith Pilates yn cynyddu, roedd mwy o sesiynau ar gael a nosweithiau Iau erbyn hyn yn llawn sesiynau.
Felly dyma benderfynu mod i angen ystyried beth oeddwn i am ei wneud i gael y gorau o'r ddwy swydd a'r ddau fyd (+ cadw balans rhwng bod yn fam brysur!) gan fod gofynion gwneud swydd llawn amser a ceisio datblygu'r busnes yn medru bod yn her.

Dyma gysylltu efo Sian - mi ddes i ar draws ei proffil Instagram, a threfnu cael sgwrs - roeddwn i'n syth yn ein cyfarfod cyntaf yn teimlo'n gyfforddus yn siarad efo Sian, ac imi roedd medru trafod yn Gymraeg yn bwysig iawn.
Roedd Sian yn gwrando, yn sicrhau ei bod yn deall y sefyllfa ac felly roeddwn i'n gallu trafod yn agored fy ngweledigaeth ar gyfer datblygu'r gwaith, a'r opsiynau gwahanol oedd gen i i'w hystyried. Roedd hi yr un mor bwysig fy mod i'n medru trafod cam wrth gam fy mhryderon a'r rhwystrau, ac roedd profiadau Sian ei hun, ei dealltwriaeth o fy sefyllfa, ei empathi a'i synnwyr digrifwch yn rhan bwysig o'r drafodaeth ac yn gymorth mawr imi bob cam o'r ffordd wrth ddod i benderfyniad ynglyn â sut roeddwn i am lwyio fy nyfodol i.

Ym mis Ebrill eleni, mi es i lawr i 3 diwrnod gwaith efo'r Mudiad er mwyn medru gwneud 2 ddiwrnod yn y stiwdio ym Mhorthaethwy yn dysgu ar y mat, ar y Reformer ac mae ambell ysgol wedi cysylltu i mi gynnal sesiynau i blant erbyn hyn hefyd.

Heb gefnogaeth Sian dwi ddim yn siwr os byddwn i wedi mentro - a dwi mor falch mod i wedi gwneud - er ei fod wedi cymryd bach o amser i addasu - a sylweddoli fod bore Iau rwan yn amser i fi! Mae'n newid mawr ar ol gweithio yn llawn amser am dros 25 mlynedd, a bod â sicrwydd cyflog cyson bob mis ac felly mae siarad drwy bopeth yn bwysig i chi fedru gwneud y penderfyniad sy'n iawn i chi.

Os oes gyno chi gnewyllyn o syniad ac angerdd i ddilyn eich breuddwyd - ond ddim cweit yn siwr lle i ddechra arni, trefnwch sgwrs efo Sian - wnewch chi ddim difaru!

Diolch Sian am dy gefnogaeth x