Hyder i geisio am swydd - Angharad

Angharad

Pan oeddwn i am wneud cais am swydd, sylweddolais fy mod angen help i roi sglein ar fy nghais i ddangos fy hun ar fy ngorau. Mae ceisio am swydd yn gallu bod yn broses eithaf unig a phryderus.

Roedd gweithio efo Siân wedi golygu fy mod yn cael adborth cefnogol ac adeiladol yn ystod bob cam o’r ffordd - a mi oedd llawer o gamau ar gyfer y swydd benodol hon! 

Dw i wedi dod allan o’r profiad wedi dysgu lot amdanaf fi fy hun a’n teimlo’n llawer fwy hyderus, nid yn unig wrth geisio am swydd, ond yn fy ngallu broffesiynol yn gyffredinol. 

Dwi hyd yn oed wedi cael sefydliad yn cynnig swydd wahanol i mi o ganlyniad i’m mherfformiad mewn cyfweliad diweddar. 

Roedd cael hyd i wasanaeth mentora Siân yn amserol iawn i mi. Mae hi’n gefnogol a’n wybodus iawn am y broses recriwtio ac wrth ystyried beth yw’r camau nesaf i’w cymryd mewn gyrfa. Mae hi wedi helpu i mi weld beth yw fy nghryfderau a’r hyn sydd gen i i’w gynnig i’m cyflogwr a chyflogwyr posib eraill yn y dyfodol. 

Byddwn i’n argymell i unrhyw un sydd eisiau cymryd y cam nesaf ‘na yn eu gyrfa i ystyried gweithio efo Siân.