Ffeindio fod bywyd llawer ysgafnach - Cari

Cari

Ar ôl bod ar gyfnod mamolaeth, roeddwn yn ffeindio hi yn anodd ymdopi gyda phwysau a chyfrifoldebau bod yn Fam, gweithio fel athrawes a rhedeg busnes ioga. Rwyf yn berson sydd yn hoffi ‘go with the flow’ ond yn sydyn iawn, nes i sylweddoli dydi'r meddylfryd yna ddim yn ddefnyddiol iawn pan mae rhywun yn trio jyglo jobsys tŷ, amserlen wythnosol, paratoi bwyd a chael dy hun a babi allan o’r tŷ mewn amser…

Roeddwn yn dechrau teimlo’r pwysau o’r disgwyliadau ar fy hun yn cael effaith ar fy iechyd meddwl a fy hapusrwydd.

Felly, nes i ddod ar draws ‘Mentora efo Siân’ yr oedd yn cynnig cymorth a chyngor sut i ddatblygu cydbwysedd mewn bywyd a rhannu strategaethau effeithiol sydd yn helpu trefnu amser, ymdopi gyda straen a dathlu llwyddiannau o ddydd i ddydd.
Yn syth ar ôl cael sgwrs gychwynnol gyda Siân, roeddwn yn sicr fy mod eisiau buddsoddi ynddi (ac yr un modd, buddsoddi yn fy hun).

Dros chwe mis o gyfarfodydd misol, amserlenni wythnosol a whatsapp ‘voicenotes’ dyddiol, roeddwn wir wedi teimlo a gweld y gwahaniaeth yn sut roeddwn yn ymdopi gyda thasgau dyddiol ac yn mynd ati i ddelio gyda disgwyliadau dyddiol yn effeithiol heb roi ormod o bwysau ar fy hun. Roedd pob sgwrs gyda Siân yn bositif, hyd yn oed pan oeddwn yn cael cyfnodau isel, roedd Siân yn atgoffa fi o’r holl lwyddiannau roeddwn wedi gwneud i godi fy nghalon.

Erbyn heddiw, rydw i dal i ddefnyddio strategaethau Siân yn ddyddiol ac wedi ffeindio fod bywyd llawer ‘ysgafnach’ a hapusach.

Pan yr ydych yn ystyried buddsoddi yn ‘Mentora efo Siân’, rydych yn buddsoddi yn eich iechyd meddwl a hapusrwydd eich hun, a mae hynny werth pob ceiniog.