Mentora proffesiynol, cyfeillgar i ferched.    

Beth bynnag dy nod, dwi yma i dy helpu i gyflawni mwy nag oeddat ti ‘rioed wedi dychmygu.    

Mentora efo Siân

Dwi yma i dy gefnogi di i gyrraedd dy nodau proffesiynol a phersonol beth bynnag yr wyt yn anelu amdano.

Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i dy helpu i gyrraedd dy nod: i ddatblygu dy yrfa, creu cydbwysedd effeithiol yn dy fywyd, gwella dy hyder yn dy waith, sicrhau swydd newydd, newid gyrfa neu beth bynnag arall wyt ti eisiau llwyddo ynddo. Byddwn yn cryfhau dy sgiliau, dy hyder a dy lesiant drwy wneud newidiadau syml ond cadarnhaol.

Gyda 25 mlynedd o brofiad mewn arweinyddiaeth, profiad o weithio mewn swydd cyfrifol ochr yn ochr â magu teulu a rhedeg busnes, dwi'n cynnig cefnogaeth gyflawn i dy helpu di i dorri trwy rwystrau, gwireddu dy botensial, a chyrraedd y lefel nesaf yn dy yrfa a bywyd. 

Fel Mentor 1:1 ac arweinydd proffesiynol, dwi'n cydweithio'n uniongyrchol efo CHDI, i greu llwybr clir at dy uchelgeisiau. Dwi'n defnyddio fy arbenigedd a fy mhrofiad fel rheolwr uwch ac arweinydd strategol i dy dywys drwy heriau'r byd corfforaethol, datblygu dy hyder a sgiliau yn dy waith, datblygu dy frand, ehangu dy rwydwaith, ac yn dy annog a dy gefnogi ar hyd y ffordd. Cyn bo hir, byddwn ni’n dathlu dy lwyddiannau efo’n gilydd!

"Dwi ‘rioed di cael cymaint o gefnogaeth i allu anelu am be dwi isio."


Wyt ti…

  • Yn gosod targedau i ti dy hun, ond byth yn cyrraedd dy nod?

  • Yn teimlo dy fod yn gweithio pob awr o’r dydd, ac eisiau balans gwell yn dy fywyd?

  • Wedi cael cynnig cyfweliad, ac eisiau help i greu argraff dda?

  • Eisiau symud ymlaen yn dy yrfa, ac eisiau’r help i wneud hynny?

  • Yn gweld bywyd gwaith yn amharu ar fywyd adra?

  • Yn gwybod dy fod angen rhoi amser i ti dy hun ond yn teimlo’n euog pan fyddi di’n gwneud hynny?

  • Yn teimlo dy fod wedi colli dy hunan hyder ar hyd y ffordd, ac eisiau’r chdi hapus a hyderus na yn ôl eto?

Da ni ferched yn blydi briliant dydan?

Da ni'n famau, yn weithwyr proffesiynol, yn helpu pawb arall, yn gwybod yn union ble mae pob aelod o'r teulu i fod pob dydd, a da ni "on it", fel rhyw elyrch gosgeiddig yn nofio dros y dŵr.

Ond waw, mae hyn yn gallu bod mor flinedig! Da ni'n cario trefniadau pawb ar ein 'sgwyddau, yn ogystal â jyglo cyfarfodydd a phwysau gwaith.

Wyt ti'n teimlo dy fod ti ar ryw fath o treadmill dyddiol, ac wedi bod arno fo ers blynyddoedd rŵan?

Fel merch broffesiynol brysur, rwyt ti'n ymdrechu i ddatblygu yn dy yrfa yn ogystal â rhoi magwraeth arbennig i dy blant, yn rhuthro o un lle i'r llall i roi'r cyfleoedd gorau iddyn nhw mewn bywyd.

Weithiau, cyn cymryd dau gam ymlaen, mae’n bwysig bod ni’n stopio’n stond am ‘chydig ac edrych ar ein hunain, gweld be allwn ni ei wneud yn wahanol cyn gallu rhoi’r pwsh bach ‘na i ni ein hunain i symud ymlaen.

Dwi'n gwybod yn union sut wyt ti'n teimlo - dwi yma i dy helpu!

“Dw i wedi elwa gymaint yn y cyfnod o weithio gyda Siân, ac wedi dechrau trawsnewid fy mywyd mewn ffyrdd realistig sydd wirioneddol yn gweithio.”

Mentora yn y gweithle

Gyda chyfoeth o brofiad yn y byd corfforaethol, rwy'n cynnig cyrsiau, sgyrsiau a sesiynau yn y gweithle fel grwpiau bychan neu ar lefel 1:1. Mae rhain wedi'u teilwra a'u cynllunio i ysbrydoli a rhoi ffydd i ferched yn eu byd gwaith.

Rwy’n cynnig sesiynau ar:

  • - sgiliau rheoli staff

  • - paratoi ar gyfer cyfweliadau a dyrchafiadau

  • - llywio cyfweliadau yn y cyfryngau

  • - mynd i'r afael â heriau'r menopos yn y gweithle

Rwyf yma i ddarparu'r offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar eich gweithwyr i ffynnu. Gyda'n gilydd, gallwn greu amgylchedd mwy cynhwysol a grymuso i fenywod yn y gweithle. Gadewch i ni gychwyn ar y daith drawsnewidiol hon gyda'n gilydd!