Rydw i bellach yn berson hollol wahanol - Angharad
Dros y misoedd diwethaf mae gweithio efo Sian wedi fy helpu a fy nghynorthwyo yn fawr iawn. Yn sicr roeddwn yn mynd trwy gyfnod heriol tu hwnt am nifer fawr o resymau. Teimlais fy mod wedi colli fy hunan hyder a’r gallu i gredu yn fy hun. Roedd gen i nifer fawr o bethau yn digwydd ac yn teimlo fy mod wedi colli cyfeiriad o ran gyrfa.
Roedd gen i brofiad helaeth iawn o weithio yn y sector cyhoeddus. Roeddwn yn mynychu nifer fawr o gyfweliadau a pheidio bod yn llwyddiannus ac roedd hynny’n anodd ei dderbyn.
Rwyf wedi elwa’n fawr o weithio efo Sian ac mae’r profiad wedi rhoi nifer fawr o rinweddau positif. Mae Sian wedi fy newid wrth godi fy hunan hyder, dangos bod gen i'r gallu i lwyddo yn unrhyw beth. Defnyddiodd dechnegau gwahanol i gyrraedd fy nod a mi oedd gallu siarad â Sian yn dangos faint o ddyfal barhad oedd gen i. Dangosodd fy mod gallu trosglwyddo fy sgiliau i swyddi newydd.
Rhannais brofiadau oeddwn wedi mynd trwyddo gyda Sian er mwyn cyrraedd fy nod o newid fy mywyd. Yn sicr mae gweithio gyda hi wedi newid fi o ran yr ochr bersonol a gwaith. Rydw i yn hynod o ddiolchgar i Sian am roi’r gallu i mi gredu yn fy hun, a mwy na dim byd arall am yr holl waith mae hi wedi ei wneud gyda fi. Roedd yna gyfnodau anodd ond ar ddiwedd y dydd roedd gen i'r asgwrn cefn i weithio’n galed a bod yn bositif.
Mae’r cyfnod o fentora gyda Sian wedi newid fi yn aruthrol. Erbyn hyn rydw i yn berson sydd yn sicr wedi codi ac ennyn hunan hyder. Dwi bellach yn credu yn fy hun ac yn dweud wrth fy hun gyda gwaith caled mae unrhyw beth yn bosib. Rydw i ar fin ddechrau ar bennod newydd yn fy ngyrfa. Rydw i yn gyffrous i fynd i mewn i yrfa y buaswn i byth yn meddwl y byddai’n digwydd i mi ac mae’r diolch am hynny yn mynd i Sian am ei chefnogaeth ac anogaeth ar hyd y daith. Yn sicr byddaf rwan mewn sefydliad lle gallaf ddatblygu ac agor drysau newydd i mi.
Mae mentora gyda Sian wedi newid fy agwedd tuag pob dim yr wyf yn berson llawer mwy positif. Doeddwn i ddim yn siŵr i ba gyfeiriad byddaf yn mynd i ond mae gyrfa rhywun yn gweithio allan am reswm ac rydw i yn edrych ymlaen at y dyfodol. Yn sicr dysgais fod yna fwy i fywyd na gwaith. Rydw i yn bellach yn beron hollol wahanol.
Os yw unrhyw yn meddwl am fentora efo Sian y cyngor byddwn i yn ei rhoi yw cer amdani. Mi ydych mewn dwylo hollol ddiogel gyda Sian mae ganddi lwyth o brofiad ac yn gallu rhoi awgrymiadau. Es i at Sian yn hollol di hyder ddim yn gwybod beth i ddisgwyl ond mae Sian wedi fy newid i yn gyfan gwbl ac rydw i yn berson llawer hapusach nawr ac mae hynny yn dangos yn fy mywyd bob dydd. Rydw i yn mynd i barhau i fentora efo Sian oherwydd y profiadau a’r cyngor gwych mae hi gallu rhoi i fi . Seren a hanner yw Sian sydd yn sicrhau wedi defnyddio gwahanol dechnegau i fy mentora.

